Gweddi
Trysorwn y partneriaethau sydd gennym gyda’r coleg ac unigolion sy’n gweddio dros yr athrawon, y myfyrwyr a gwaith y coleg. Mae sawl ffordd y gallwch ein cefnogi mewn gweddi:
- Edrych ar adran newyddion a digwyddiadau’n gwefan, lle nodwn eitemau gweddi’n gyson.
- Llofnodi er mwyn dderbyn llythyr newyddion y coleg.
- Trefnu cyfle cyson mewn oedfaon y Sul neu mewn Oedfa Weddi i gofio’r coleg.
Awgrymiadau am weddi
Yn gyffredinol, byddwn yn croesawu gweddi dros
Cymuned y Coleg
Mae gan y coleg gymuned o bobl sy’n newid yn gyson. Daw y bobl hyn o gefndiroedd ac ardaloedd gwahanol. Mae dysgu byw ochr yn ochr ag eraill gyda syniadau gwahanol yn gymaint rhan o baratoi ar gyfer y weinidogaeth. Byddwn yn gyson yn deall sut i fyw a dysgu gyda’n gilydd mewn cymuned agored a chroesawgar a gweddiwn am hyn.
Bywyd addolgar y Coleg
Mae ein amserau o weddi dyddiol a gwasanaethau wythnosol yn ffurfio rhan ganolog o blethiad ein cymuned. Sut bynnag, gweddiwn y byddant yn adegau sy’n ein herio a’n ffurfio fel Coleg ac fel unigolion.
Hyfforddiant academaidd
I rai myfyrwyr, daw astudio diwinyddiaeth mor hawdd ac anadlu, gan ganiatau iddynt feddwl mewn ffyrdd newydd a thyfu’n ysbrydol. Bydd myfyrwyr eraill yn profi disgyblaeth academaidd fel gwaith caled. Gweddiwn y bydd pob myfyriwr yn elwa drwy eu hastudiaethau, nid yn unig o ran gwybodath a sgiliau, ond gyda synnwyr cynyddol o fyfyrdod a fydd yn parhau ar hyd ei weinidogaeth.
Gweinidogaeth mewn eglwysi a thu hwnt
Bydd myfyrwyr yn pregethu’n gyson mewn eglwysi yng Nghymru a thu hwnt, ynghyd å gweithio mewn lleoliadau gydag eglwysi a chyrff eraill (e.e. profiad o gaplaniaeth). Gweddïwch y byddant yn gyfryngau bendith i’r sawl maent yn eu gwasanaethu, ynghyd â’u bod yn ennill llawer o brofiad am agweddau amrywiol o’r weinidogaeth.
Gweddio y bydd y myfyrwyr sy’n gorffen, yn profi arweiniad Duw yn eu bywydau.
Mae hwn yn gyfnod anodd i sefydlu mewn eglwysi, ac i rai myfyrwyr, golyga hyn eu bod yn gorffen yn y coleg heb unrhyw le i fynd iddo. Mae i hyn oblygiadau ariannol, a gall fod yn brofiad pryderus i’w teuluoedd. Gweddïwch y bydd Duw yn eu harwain i’r dyfodol.
Darpar fyfyrwyr wrth iddynt ystyried a yw Duw yn eu galw i ymgeisio
Ceir nifer o gamau ffurfiol wrth geisio am lefydd i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth, ond mae’r coleg o hyd yn croesawu sgyrsiau anffurfiol. Gweddiwch fod y sawl sy’n dechrau synhwyro galwad Duw yn meddu’r hyder i ofyn am gyfle i sgwrsio am eu profiadau.

Am wybodaeth pellach
ynghlyn â chyrsiau CBC
ffoniwch y swyddfa ar 029 2025 6066 neu anfon neges yma