Llwybrau
Mae Llwybrau yn cynorthwyo pobl yng Nghymru i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ffydd ac arfer, ac yn datblygu sgiliau gweinidogaeth a chenhadaeth. Efallai eich bod yn ceisio cael eich cydnabod yn arweinydd eglwys sy’n pregethu a bugeilio. Efallai y bydd gennych diddordeb mewn un modiwl yn unig. Bydd Llwybrau yn eich cynorthwyo i wneud y cyswllt rhwng yr Eglwys a’r byd. Rhwng y Sul a gweddill yr wythnos, ac yn cyfoethogi eich ysbrydolrwydd ac yn eich plethu’n dynnach i genhadaeth yr eglwys. Mae’n becyn hyblyg ac ymarferol o gyfleoedd i ddysgu – gallwch ddewis unrhyw nifer o fodylau, a chasglu credidau wrth fynd yn eich blaen. Cynlluniwyd y cwrs er mwyn arfogi ac ysbrydoli gweinidogaethau a chenadaethau pobl sy’n gwasanaethu Crist drwy’r eglwysi Bedyddiedig lleol yng Nghymru.
Cynlluniwyd Llwybrau er gyfer ystod eang o bobl fel diaconiaid, arweinwyr addoliad, gweithwyr ieuenctid, arweinwyr Grwpiau Tai. Mae’n adnodd i bawb sy’n cael eu cefnogi gan eglwys leol sydd am hyfforddiant ar gyfer gwaith gweinidogaethol a chenhadol, ac yn bosibl beth bynnag yw eich profiad neu eich cymwysterau. Bydd gan pob un o hyrwyddwyr y modiwl brofiad yn y weinidogaeth a’r genhadaeth. Hefyd bydd Llwybrau yn cydnabod y cyfoeth hwn o brofiad ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb yn y trafodaethau.
Bydd y modylau yn cynnwys:
- Llwybrau i gredoau Cristnogol
Archwilio agweddau canolog i Gredoau Cristnogol a’i perthnasedd i fywyd cyfoes. - Llwybrau i Addoliad
Archwilio agwedd holistig i addoliad wrth ddatblygu nifer o sgiliau penodol ymarferol. - Llwybrau Beiblaidd
Archwilio hanes ac ystyr y Beibl a’r modd, mae’n berthnasol heddiw - Llwybrau i Arweinyddiath Eglwys
Archwilio ffyrdd o ystyried arweinyddiaeth eglwys heddiw gan ganolbwyntio ar wynebu gwrthdaro - Llwybrau i Gred Radicaliaeth
Archwilio agweddau o weledigaeth Fedyddiedig i fywyd heddiw gan ystyried hanes egwyddorion ac ymarferoldeb gyfoes - Llwybrau i Bregethu
Archwilio ffyrdd o baratoi pregethau a chyfathrebu effeithiol. - Llwybrau i genhadaeth ac efengylu
Archwilio seiliau Beiblaidd i rannu yng nghenhadaeth Duw ac ystyried enghreifftiau o ymarfer dda. - Llwybrau i Ysbrydolrwydd a Chynnydd Ysbrydol
Archwilio beth a olygir wrth ysbrydolrwydd ac ym mha fodd rydym yn datblygu ein perthynas gyda Duw. - Llwybrau i hyrwyddo Brentisiaid Ffydd a Diwylliant.
Deall yr ystod eang o ddiwylliant gyfoes ac archwilio sut mae meithrin bod yn ddisgyblion Crist-debyg yn ein byd heddiw.
Cyflwynir modylau Llwybrau mewn nifer o leoliadau ledled Cymru, a hynny ar draws patrwm dwy flynedd. Gellir ymuno (neu adael) unrhyw bryd. Cynhelir y cyfarfodydd hyn yng Nghaerfyrddin (Gorllewin Cymru), Aberhonddu (Canolbarth Cymru), a Chaerdydd (De Cymru).
Am fwy o wybodaeth am Llwybrau gan gynnwys costau, dyddiadau a lleoliadau, ac i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch gyda thudalen Llawrlwytho.
I gofrestru eich diddordeb yn Llwybrau cysylltwch gyda Dr Craig Gardiner: pathways@swbc.org.uk

Am wybodaeth pellach
ynghlyn â chyrsiau CBC
ffoniwch y swyddfa ar 029 2025 6066 neu anfon neges yma